Wednesday 16 April 2014

From sleepy slow worms and sunbathing adders to an abundance of newts – last week had them all!


**Scroll down for Welsh**  **Rholiwch i lawr i weld y testun Cymraeg**

Wow what a fantastic couple of days we had last week!  The Snowdonia Society teamed up with North Wales Wildlife Trust (NWWT) and the Amphibian and Reptile Conservation Trust (ARC – trust) to put on some training about surveying for amphibian and reptiles. 

Did you know that both amphibians and reptiles are incredibly under recorded groups in the UK?  Did you know you can change that?  If you see a frog, toad, newt, lizard or snake in your garden, on a walk, crossing the road – in fact any where! – make a note of what it was, where it was and if possible get a picture.  You can then input the details online here (which only takes a couple of minutes) and….voila!  Suddenly there are more records about the distribution of these species.  This is particularly useful data to have, especially when we’re facing climate change, as it allows us to monitor populations and distributions, and hopefully pick up changing patterns more quickly.



We had an excellent turn out to the training course and everyone really enjoyed the days – and have gone away eager to start surveying and recording these important species.  One of the highlights of the event had to be the excellent views of an adder, which was many peoples first sighting.  Some people were lucky enough to see a grass snake too, and fortunately the weather stayed dry enough to make surveying for amphibians, in a pond, by torchlight possible.






A big thank you goes out to ARC-trust for providing the training and to NWWT for looking after Gwaith Powdwr so well, making it an excellent location for training people in surveying techniques.  We’re hoping to arrange future surveying events so if you fancy getting involved, keep and eye on our website, or contact us to be added to our mailing list.



O ddallnadroedd cysglyd a gwiberod yn torheulo i ddigonedd o fadfallod y dŵr – gwelwyd pob un ohonynt yr wythnos diwethaf!

Cawsin ddau ddiwrnod anhygoel yr wythnos diwethaf!  Fe wnaeth Cymdeithas Eryri gydweithio ag Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru (NWWT) a’r Ymddiriedolaeth Gwarchod Amffibiaid ac Ymlusgiaid i gynnal hyfforddiant ynghylch gwneud arolygon o amffibiaid ac amlusgiaid.  

Wyddoch chi nad oes digon o waith cofnodi amffibiaid a reptiliaid o bell ffordd yn digwydd yn y DU?  A wyddoch chi y gallwch newid hynny?  Os gwelwch lyffant, brogfa, madfall y dŵr, madfall neu neidr yn eich gardd, yn ystod taith gerdded, wrth groesi'r ffordd - yn wir, yn unrhyw fan! – cadwch gofnod o’r math o anifail, ble’r oedd a thynnwch lun os gallwch.  Yna, gallwch nodi’r manylion ar-lein yma a….voila!  Yn sydyn, mae rhagor o gofnodion o ddosbarthiad y rhywogaethau hyn.   Mae'r data hyn yn ddefnyddiol iawn, yn enwedig â ninnau’n wynebu newid yn yr hinsawdd, oherwydd mae'n caniatáu inni fonitro poblogaethau a dosbarthiadau, a chanfod patrymau newidiol yn gyflymach, gobeithio.




Cawsom bresenoldeb rhagorol ar y cwrs ac fe wnaeth pawb fwynhau’r ddau ddiwrod yn fawr. Maent oll wedi mynd ati’n frwdfrydig i gychwyn arolygu a chofnodi’r rhywogaethau pwysig hyn.  Un o uchafbwyntiau’r digwyddiad heb os oedd y golygfeydd rhagorol o wiber, y tro cyntaf i lawer o bobl weld un.  Bu rhai pobl yn ddigon ffodus i weld neidr y glaswellt hefyd, ac yn ffodus, roedd y tywydd yn ddigon sych i alluogi inni wneud arolygon o amffibiaid, mewn pwll, dan olau torsh.



Diolch yn fawr i’r Ymddiriedolaeth Gwarchod Amffibiaid ac Ymlusgiaid am ddarparu’r hyfforddiant ac i NWWT am ofalu am warchofa Gwaith Powdwr mor dda, gan sicrhau ei fod yn leoliad gwych i ddarparu hyfforddiant mewn technegau gwneud arolygon.  Rydym yn gobeithio trefnu digwyddiadau arolygu yn y dyfodol, felly os oes arnoch awydd cyfranogi, cofiwch gadw llygaid ar ein gwefan, neu e-bostiwch i ychwanegu eich enw at ein rhestr bostio.





Tuesday 11 March 2014

Thank you Gwirvol! Diolch Gwirvol!

**Scroll down for Welsh**  **Rholiwch i lawr i weld y testun Cymraeg**

Thank you Gwirvol!



The Snowdonia Society, were lucky enough to secure funding from Gwirvol from last April, to enable us to provide transport for young volunteers aged 14-25 to allow them to attend workdays.  Transport in a rural area such as Snowdonia can be a real barrier to volunteering and the money from Gwirvol has allowed over 40 young people to get involved in our workdays.  Young people from a variety of backgrounds have taken part in a number of tasks ranging from controlling invasive species such as Himalayan balsam and Rhododendron to footpath maintenance, scrub clearance and tree planting.  

Katie is a volunteer from Bangor University who has benefited from the transport provided for workdays.  Katie says “the workdays are held regularly and provide a valuable opportunity for students and community members alike to gain skills and knowledge in a practical sense that is not always available at a class room level.  I look forward to future events and believe that these skills gained will assist me in my future endeavours.”

Katie first volunteered with the society in October, where she attended a bioblitz at Ty Hyll, the Snowdonia Society’s property near Betws y Coed. A Bioblitz is where volunteers and experts come together to record as many species as possible, whilst giving volunteers the opportunity to learn new skills such as moth, fungi and plant identification. Transport was provided allowing Katie and other young volunteers to access the site easily.  Over the weekend, informal training in plant identification was given to young volunteers by a local expert as well as volunteers having the opportunity to foray for fungi, hunt for frogs and toads and identify moths with the help of experts.  On the day a very rare fungi was found, as well as a plant species which was new to the site.  Overall a successful weekend!



More recently, Katie attended a tree planting workday with the society, again at Ty Hyll.  Below is her account of the day:
'The day first appeared as one that may become unfavourable to those who chose to spend this Sunday morning getting their hands dirty in the name of conservation. But! Our nature seeking hearts remained full as we were graciously chauffeured to the most beautiful 'Ugly House' to meet our fellow brave supporters. The turn out was impressive and the right gear was chosen. We were briefed with our tree planting duties and encouraged for our passion and resilience against the elements as we geared up with shovels, guards, and an assortment of young saplings, itching to find a new home. We were led by the infamous Margaret; an inspiring veteran with 20 years of service. Placement is everything and she held the knowledge and intuition that allows our digging to be made worthwhile. Jenny was also on our side particularly as we faced onsets of hail, rain and finally sunshine. All members were of great importance and an integral part of our experience. The trees were planted, alongside a class of worthy winter tree identification and the feeling of accomplishment began to overwhelm us. Our ride was reliably waiting and I left feeling light and happy. These volunteer days are invaluable to both its participants and the earth'



The Snowdonia Society would like to take this opportunity to thank Gwirvol, on behalf of all our young volunteers, for the funding which has allowed us to make such a difference to young volunteers in this area.  Katie’s is just one of the positive stories which has come about because of the funding, young people have been able to access volunteering opportunities which would have been difficult/ impossible for them to without the provision of transport.  Thank you Gwirvol!


Diolch Gwirvol!



Bu Cymdeithas Eryri yn ddigon ffodus i gael arian gan Gwirvol fis Ebrill diwethaf i ganiatáu inni ddarparu cludiant i wirfoddolwyr ifanc 14-25 i alluogi iddynt fynychu ein diwrnodau gwaith.  Gall cludiant mewn ardal wledig megis Eryri fod yn rhwystr go iawn rhag gwirfoddoli, ac mae arian Gwirvol wedi caniatáu i dros 40 o bobl ifanc gyfranogi yn ein diwrnodau gwaith.  Mae pobl ifanc o gefndiroedd amrywiol wedi cymryd rhan mewn nifer o ddiwrnodau gwaith yn amrywio o reoli rhywogaethau ymwthiol megis Ffromlys Chwarennog a Rhododendron i gynnal a chadw llwybrau troed, clirio prysgwydd a phlannu coed.  

Mae Katie yn wirfoddolwraig o Brifysgol Bangor sydd wedi elwa ar y cludiant a drefnir ar gyfer diwrnodau gwaith.  Dywed Katie: “caiff y diwrnodau gwaith eu cynnal yn rheolaidd ac maent yn gyfle gwerthfawr i fyfyrwyr ac aelodau’r gymuned i feithrin sgiliau a gwybodaeth mewn ystyr ymarferol ac nid yw hynny bob amser ar gael yn yr ystafell ddosbarth.  Edrychaf ymlaen at ddigwyddiadau’r dyfodol, a chredaf y gwnaiff y sgiliau a gefais fy nghynorthwyo â fy ymdrechion yn y dyfodol.”

Fe wnaeth Katie gychwyn gwirfoddoli i’r Gymdeithas ym mis Hydref, pan fynychodd y Bioblitz yn Nhŷ Hyll, eiddo Cymdeithas Eryri ger Betws y Coed. Mae Bioblitz yn gynulliad o wirfoddolwyr ac arbenigwyr er mwyn cofnodi cymaint ag y bo modd o rywogaethau, gan roi cyfle i wirfoddolwyr ddysgu sgiliau newydd megis adnabod gwybed, ffyngau a phlanhigion. Darparwyd cludiant, a alluogodd i Katie a gwirfoddolwyr ifanc eraill deithio’n rhwydd i’r safle.  Dros y penwythnos, rhoddwyd hyfforddiant anffurfiol mewn adnabod planhigion i bobl ifanc gan arbenigwr lleol, a chafodd gwirfoddolwyr gyfle i chwilio am ffyngau, hela llyffantod a brogaod ac adnabod gwybed â chymorth arbenigwyr.  Canfuwyd ffwng prin iawn ar y diwrnod, yn ogystal â rhywogaethau planhigion oedd yn newydd i’r safle.  Penwythnos llwyddiannus ar y cyfan!



Yn fwy diweddar, daeth Katie i weithdy plannu coed a drefnwyd gan y Gymdeithas, unwaith eto yn Nhŷ Hyll.  Mae ei disgrifiad o’r diwrnod isod:
‘Yn y lle cyntaf, ymddangosai’r diwrnod fel un a allai ddod yn anffafriol i’r sawl sy’n dymuno treulio eu bore Sul yn baeddu eu dwylo wrth wneud gwaith cadwraeth. Ond! Codwyd ein calonnau ceisio natur wrth inni gael ein hebrwng yn garedig i’r ‘Tŷ Hyll’ prydferth iawn i gwrdd â’n cefnogwyr dewr. Roedd y presenoldeb yn drawiadol a dewiswyd yr offer priodol. Cawsom eglurhad o’n dyletswyddau plannu coed a chawsom ein hannog i fod yn frwdfrydig a gwydn yn erbyn yr elfennau wrth inni fynd i’r afael â rhawiau, amddiffynwyr ac amrywiaeth o lasbrennau ifanc oedd yn ysu i ganfod cartref newydd. Cawsom ein harwain gan Margaret, gwirfoddolwraig ysbrydoledig sydd â dros 20 mlynedd o wasanaeth. Mae gwybod lle i osod y planhigion yn hollbwysig ac roedd ganddi’r wybodaeth a’r sythwelediad a sicrhaodd fod ein cloddio yn werth chweil. Roedd Jenny hefyd o’n plaid wrth inni wynebu cenllysg, glaw, ac yn olaf, heulwen. Roedd yr holl aelodau yn bwysig iawn ac yn rhan anhepgor o’n profiad. Plannwyd yr holl goed, a chafwyd dosbarth adnabod coed yn y gaeaf, ac fe wnaeth teimlad o fod wedi llwyddo gychwyn ein gorlethu. Roedd ein cludiant yn ein haros a gadewais yn teimlo’n ysgafn a llawen. Mae’r diwrnodau gwirfoddoli yn amhrisiadwy i’r cyfranogwyr a’r ddaear’



Hoffai Cymdeithas Eryri elwa ar y cyfle i ddiolch i Gwirvol, ar ran ein gwirfoddolwyr ifanc, am yr arian sydd wedi caniatáu inni wneud cymaint o wahaniaeth i wirfoddolwyr ifanc yn yr ardal.  Mae hanes Katie yn un yn unig o’r straeon positif sydd wedi deillio o’r cyllid. Mae pobl ifanc wedi llwyddo i elwa ar gyfleoedd gwirfoddoli a fyddai wedi bod yn anodd neu’n amhosibl iddynt heb ddarparu cludiant.  Diolch Gwirvol!

Wednesday 8 January 2014

New Year, New You! Volunteer!


**Scroll down for Welsh**  **Rholiwch i lawr i weld y testun Cymraeg**

With the last workday of 2013 having been held, now is a good opportunity to look forward!  Are you looking for a New Years resolution which will make a difference both to you, other people and the environment? 

Why not take part in volunteering with the Snowdonia Society?  It’s an ideal opportunity to give something back to this beautiful area, to make friends and to get to know your local area better!  Volunteering is also an excellent way to boost a CV and, with training available, and 3-4 workdays a month allowing you to improve your practical skills, our project is the perfect one to take part in.  Come along to the workdays you can make, there’s no pressure to come to them all!



Since June 2013, over 140 volunteers have worked with us completing tasks such as footpath maintenance, invasive species management and mammal surveys.  We have also provided two free plant ID courses for our volunteers.  In the New Year we’re looking forward to a variety of workdays including tree planting and hurdle making on January 26th, footpath maintenance on January 23rd, Rhododendron clearance on January 15th and of course our annual Harlech beach clean in the sprint!  Check out our upcoming workdays here and get in contact now to start your new year as you mean to go on… you only live once!


Blwyddyn Newydd, Chi Newydd! Gwirfoddolwch!


Mae diwrnod gwaith olaf 2013 bellach wedi’i gynnal, felly mae’n gyfle da i edrych ymlaen!  A ydych yn chwilio am adduned Blwyddyn Newydd a wnaiff wahaniaeth i chi, i bobl eraill ac i’r amgylchedd? 

Beth am wirfoddoli gyda Chymdeithas Eryri?  Mae’n gyfle delfrydol i roi rhywbeth yn ôl i’r ardal hardd hon, gwneud ffrindiau a dod i adnabod eich ardal leol yn well!  Mae gwirfoddoli hefyd yn gyfle gwych i wella CV, oherwydd cynigir hyfforddiant a 3-4 diwrnod gwaith y mis a wnaiff ganiatáu ichi wella eich sgiliau ymarferol, felly mae ein prosiect yn un perffaith i gymryd rhan ynddo.  Dewch draw i’r diwrnodau gwaith sy’n gyfleus ichi, nid oes unrhyw reidrwydd i fynychu pob un!




Ers Mehefin 2013, mae dros 140 o wirfoddolwyr wedi gweithio gyda ni i wneud tasgau megis cynnal a chadw llwybrau, clirio rhywogaethau ymwthiol a gwneud arolygon o famaliaid.  Rydym hefyd wedi cynnal dau gwrs adnabod planhigion yn rhad ac am ddim i’n gwirfoddolwyr.  Rydym yn edrych ymlaen at amrywiaeth o ddiwrnodau gwaith yn y Flwyddyn Newydd, yn cynnwys plannu coed a gwneud clwydi ar 26 Ionawr, cynnal a chadw llwybrau troed ar 23 Ionawr, clirio Rhododendron ar 15 Ionawr, ac wrth gwrs, ein diwrnod blynyddol i lanhau traeth Harlech yn ystod y gwanwyn.  Darllenwch am ddiwrnodau gwaith y dyfodol agos yma a chysylltwch â ni i gychwyn eich blwyddyn newydd yn unol â’ch addewidion...unwaith yn unig fyddwch chi byw!