Wednesday 16 April 2014

From sleepy slow worms and sunbathing adders to an abundance of newts – last week had them all!


**Scroll down for Welsh**  **Rholiwch i lawr i weld y testun Cymraeg**

Wow what a fantastic couple of days we had last week!  The Snowdonia Society teamed up with North Wales Wildlife Trust (NWWT) and the Amphibian and Reptile Conservation Trust (ARC – trust) to put on some training about surveying for amphibian and reptiles. 

Did you know that both amphibians and reptiles are incredibly under recorded groups in the UK?  Did you know you can change that?  If you see a frog, toad, newt, lizard or snake in your garden, on a walk, crossing the road – in fact any where! – make a note of what it was, where it was and if possible get a picture.  You can then input the details online here (which only takes a couple of minutes) and….voila!  Suddenly there are more records about the distribution of these species.  This is particularly useful data to have, especially when we’re facing climate change, as it allows us to monitor populations and distributions, and hopefully pick up changing patterns more quickly.



We had an excellent turn out to the training course and everyone really enjoyed the days – and have gone away eager to start surveying and recording these important species.  One of the highlights of the event had to be the excellent views of an adder, which was many peoples first sighting.  Some people were lucky enough to see a grass snake too, and fortunately the weather stayed dry enough to make surveying for amphibians, in a pond, by torchlight possible.






A big thank you goes out to ARC-trust for providing the training and to NWWT for looking after Gwaith Powdwr so well, making it an excellent location for training people in surveying techniques.  We’re hoping to arrange future surveying events so if you fancy getting involved, keep and eye on our website, or contact us to be added to our mailing list.



O ddallnadroedd cysglyd a gwiberod yn torheulo i ddigonedd o fadfallod y dŵr – gwelwyd pob un ohonynt yr wythnos diwethaf!

Cawsin ddau ddiwrnod anhygoel yr wythnos diwethaf!  Fe wnaeth Cymdeithas Eryri gydweithio ag Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru (NWWT) a’r Ymddiriedolaeth Gwarchod Amffibiaid ac Ymlusgiaid i gynnal hyfforddiant ynghylch gwneud arolygon o amffibiaid ac amlusgiaid.  

Wyddoch chi nad oes digon o waith cofnodi amffibiaid a reptiliaid o bell ffordd yn digwydd yn y DU?  A wyddoch chi y gallwch newid hynny?  Os gwelwch lyffant, brogfa, madfall y dŵr, madfall neu neidr yn eich gardd, yn ystod taith gerdded, wrth groesi'r ffordd - yn wir, yn unrhyw fan! – cadwch gofnod o’r math o anifail, ble’r oedd a thynnwch lun os gallwch.  Yna, gallwch nodi’r manylion ar-lein yma a….voila!  Yn sydyn, mae rhagor o gofnodion o ddosbarthiad y rhywogaethau hyn.   Mae'r data hyn yn ddefnyddiol iawn, yn enwedig â ninnau’n wynebu newid yn yr hinsawdd, oherwydd mae'n caniatáu inni fonitro poblogaethau a dosbarthiadau, a chanfod patrymau newidiol yn gyflymach, gobeithio.




Cawsom bresenoldeb rhagorol ar y cwrs ac fe wnaeth pawb fwynhau’r ddau ddiwrod yn fawr. Maent oll wedi mynd ati’n frwdfrydig i gychwyn arolygu a chofnodi’r rhywogaethau pwysig hyn.  Un o uchafbwyntiau’r digwyddiad heb os oedd y golygfeydd rhagorol o wiber, y tro cyntaf i lawer o bobl weld un.  Bu rhai pobl yn ddigon ffodus i weld neidr y glaswellt hefyd, ac yn ffodus, roedd y tywydd yn ddigon sych i alluogi inni wneud arolygon o amffibiaid, mewn pwll, dan olau torsh.



Diolch yn fawr i’r Ymddiriedolaeth Gwarchod Amffibiaid ac Ymlusgiaid am ddarparu’r hyfforddiant ac i NWWT am ofalu am warchofa Gwaith Powdwr mor dda, gan sicrhau ei fod yn leoliad gwych i ddarparu hyfforddiant mewn technegau gwneud arolygon.  Rydym yn gobeithio trefnu digwyddiadau arolygu yn y dyfodol, felly os oes arnoch awydd cyfranogi, cofiwch gadw llygaid ar ein gwefan, neu e-bostiwch i ychwanegu eich enw at ein rhestr bostio.