**Scroll down for Welsh** **Rholiwch i lawr i weld y testun Cymraeg**
With the last workday of 2013 having been held, now is a
good opportunity to look forward! Are
you looking for a New Years resolution which will make a difference both to
you, other people and the environment?
Why not take part in volunteering with the Snowdonia
Society? It’s an ideal opportunity to
give something back to this beautiful area, to make friends and to get to know
your local area better! Volunteering is
also an excellent way to boost a CV and, with training available, and 3-4
workdays a month allowing you to improve your practical skills, our project is
the perfect one to take part in. Come
along to the workdays you can make, there’s no pressure to come to them all!
Since June 2013, over 140 volunteers have worked with us
completing tasks such as footpath maintenance, invasive species management and
mammal surveys. We have also provided
two free plant ID courses for our volunteers.
In the New Year we’re looking forward to a variety of workdays including
tree planting and hurdle making on January 26th, footpath maintenance on
January 23rd, Rhododendron clearance on January 15th and of course
our annual Harlech beach clean in the sprint!
Check out our upcoming workdays here and get in contact now to start your
new year as you mean to go on… you only live once!
Blwyddyn Newydd, Chi Newydd! Gwirfoddolwch!
Mae diwrnod gwaith olaf 2013 bellach wedi’i gynnal, felly mae’n gyfle da i
edrych ymlaen! A ydych yn chwilio am adduned Blwyddyn Newydd a
wnaiff wahaniaeth i chi, i bobl eraill ac i’r amgylchedd?
Beth am wirfoddoli gyda Chymdeithas Eryri? Mae’n gyfle delfrydol i roi rhywbeth yn ôl i’r ardal hardd hon, gwneud
ffrindiau a dod i adnabod eich ardal leol yn well! Mae gwirfoddoli hefyd yn gyfle gwych i wella CV,
oherwydd cynigir hyfforddiant a 3-4 diwrnod gwaith y mis a wnaiff ganiatáu ichi
wella eich sgiliau ymarferol, felly mae ein prosiect yn un perffaith i gymryd
rhan ynddo. Dewch draw i’r diwrnodau
gwaith sy’n gyfleus ichi, nid oes unrhyw reidrwydd i fynychu pob un!
Ers Mehefin 2013, mae dros 140 o wirfoddolwyr
wedi gweithio gyda ni i wneud tasgau megis cynnal a chadw llwybrau, clirio
rhywogaethau ymwthiol a gwneud arolygon o famaliaid. Rydym hefyd wedi cynnal dau gwrs adnabod
planhigion yn rhad ac am ddim i’n gwirfoddolwyr. Rydym yn edrych ymlaen at amrywiaeth o ddiwrnodau gwaith yn y Flwyddyn
Newydd, yn cynnwys plannu coed a gwneud clwydi ar 26 Ionawr, cynnal a chadw
llwybrau troed ar 23 Ionawr, clirio Rhododendron ar 15 Ionawr, ac wrth gwrs,
ein diwrnod blynyddol i lanhau traeth Harlech yn ystod y gwanwyn. Darllenwch am ddiwrnodau gwaith y dyfodol agos
yma a chysylltwch â ni i gychwyn eich blwyddyn newydd yn unol â’ch
addewidion...unwaith yn unig fyddwch chi byw!