Wednesday 27 November 2013

Engaging with Ecosystems

**Scroll down for Welsh**  **Rholiwch i lawr i weld y testun Cymraeg**

What a fantastic evening we had last night at our “Engaging with Ecosystems talk”.   The main focus of the evening was the invasive species Rhododendron ponticum.

-  Did you know that there are over 1000 species of Rhododendron worldwide and Rhododendron ponticum is the only invasive one? 

- Did you know that it is a myth that the Victorians introduced Rhododendron ponticum to the UK?  It was in fact found here naturally before the last ice age but didn’t re-colonise.  It was then introduced by the Georgians around 1763!

- Did you know that it is extremely toxic and even honey produced from Rhododendron ponticum can be poisonous for humans, causing, among other things, heart problems?

The evening started with an introduction to Pensychnant Conservation Centre, where the event was held.  Julian Thomson, Pensychnant manager, outlined a brief history of the house and grounds and then told us about the way they have tackled Rhododendron there. 

Mary-Kate, project manager for the Snowdonia Society then introduced the concept of ecosystem services to the group.  Put simply, ecosystem services are the resources produced by the environment which humans use.  Examples would include clean air, pollination, flood control, Carbon sequestration and tourism.  Many of the Snowdonia Society workdays directly contribute towards maintaining or improving ecosystem services.  Footpath maintenance ensures that visitors to the area can safely enjoy Snowdonia while Himalayan balsam removal prevents native species from being out competed; both in terms of space and light and for pollinators.


Finally, Carwyn ap Myrddin of Snowdonia National Park Authority went into detail about large scale Rhododendron ponticum control in Snowdonia.  It’s a real problem as its thick branches block all light from reaching the ground, so it out-competes our native species.  It is also very toxic, making grazing as a control method difficult, and releasing toxins back into the soil, making re-colonisation by native species a challenge.  Each plant releases millions of seeds meaning that once established it is very difficult to get rid of!  It is estimated that it would cost £10 million to eradicate Rhododendron ponticum from Snowdonia.   Snowdonia National Park Authority, Natural Resources Wales (NRW) and the National Trust have teamed up to tackle Nant Gwynant, a key problem area for this plant – hopefully in the future tourists will be coming to see slopes full of native plants with not  a rhododendron in sight!


A big thank you goes out to Carwyn and Julian for sharing their expertise with us, and also to everyone who turned up to take part!

If you would like to get involved with some of the Snowdonia Society’s workdays, including Rhododendron ponticum control, check out our opportunities here.

Ymgysylltu ag Ecosystemau

Cawsom noson wych neithiwr yn ein sgwrs am "Ymgysylltu ag Ecosystemau".   Prif sylw’r noson oedd y rhywogaeth ymwthiol Rhododendron ponticum.

Wyddoch chi fod dros 1000 rhywogaeth Rhododendron ledled y byd a Rhododendron ponticum yw’r unig un yw’r unig un ymwthiol? 

- A wyddoch chi mai myth yw’r gred mai’r Fictoriaid a gyflwynodd Rhododendron ponticum yn y DU?  Mewn gwirionedd, roedd yma’n naturiol cyn oes yr ia diwethaf ond ni wnaeth ail-gytrefu.  Yna, fe’i cyflwynwyd gan y Sioriaid tua 1763!

- A wyddech chi ei fod yn hynod wenwynig a gall hyd yn oed mêl a gynhyrchir o Rhododendron ponticum fod yn wenwynig i bobl, gan achosi problemau’r galon ymysg pethau eraill?

Cychwynnodd y noson â chyflwyniad i Ganolfan Cadwraeth Pensychnant, ble cynhaliwyd y digwyddiad.  Fe wnaeth Julian Thomson, rheolwr Pensychnant, amlinellu hanes cryno’r tŷ a’r gerddi, ac yna fe wnaeth egluro inni sut maent wedi taclo Rhododendron yno. 

Yna, fe wnaeth Mary-Kate, rheolwr prosiect Cymdeithas Eryri, gyflwyno’r cysyniad o wasanaethau ecosystem i’r grŵp.  Yn syml, gwasanaethau ecosystem yw’r adnoddau a gynhyrchir gan yr amgylchedd a ddefnyddir gan bobl.  Mae enghreifftiau yn cynnwys awyr iach, peillio, rheoli llifogydd, dal a storio carbon, a thwristiaeth.  Mae llawer o ddiwrnodau gwaith Cymdeithas Eryri yn cyfrannu’n uniongyrchol at gynnal neu wella gwasanaethau ecosystem.  Mae cynnal llwybrau troed yn sicrhau fod ymwelwyr sy'n dod i'r ardal yn gallu mwynhau Eryri yn ddiogel ac mae clirio Ffromlys Chwarennog yn sicrhau nad yw rhywogaethau cynhenid yn gorfod cystadlu yn eu herbyn am le, goleuni a phryfed peillio.


Yn olaf, fe wnaeth Carwyn ap Myrddin o Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri roi cyflwyniad manwl am reoli Rhododendron ponticum ar raddfa helaeth yn Eryri.  Mae’n broblem sylweddol, oherwydd mae ei ganghennau trwchus yn atal unrhyw oleuni rhag cyrraedd y ddaear, felly bydd yn drech na'n rhywogaethau cynhenid.  Mae’n wenwynig iawn hefyd, sy’n golygu ei bod hi'n anodd defnyddio pori i'w reoli, a bydd yn rhyddhau tocsinau i'r pridd, sy'n golygu fod ail-gytrefu gan rywogaethau cynhenid  yn her.  Bydd pob planhigyn yn gollwng miliynau o hadau, sy'n golygu ei fod yn anodd iawn cael gwared arno wedi iddo sefydlu!  Amcangyfrifir y buasai difa Rhododendron ponticum  yn llwyr yn Eryri yn costio £10 miliwn.   Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol wedi dod ynghyd i’w daclo yn Nant Gwynant, un o’r mannau lle mae’r planhigyn hwn yn fwyaf problemus - gobeithio y gall twristiaid y dyfodol ddod i weld y llethrau yn llawn planhigion cynhenid, heb unrhyw rododendron i'w gweld!


Diolch yn fawr iawn i Carwyn a Julian am rannu eu harbenigedd â ni, a diolch hefyd i bawb a ddaeth draw i gyfranogi.

Os hoffech gymryd rhan yn rhai o ddiwrnodau gwaith Cymdeithas Eryri, yn cynnwys rheoli Rhododendron ponticum, darllenwch am ein cyfleoedd yma.

No comments:

Post a Comment