Welcome to our brand new blog page – How exciting!
There’s always plenty
to talk about going on in Snowdonia from our own volunteering days to
interesting local stories. An ideal way
to start this blog is to reflect on the past six months, which have seen the
launch of our new project “the Snowdonia Ecosystem Project” (the hugely successful
Conservation Snowdonia Project is now retired!). In recent months we've seen many firsts for
the society thanks to this new project:
* Our first sea
mammal survey in partnership with Sea Watch, proved a very popular event and
one which we would like to see repeated.
Unfortunately no dolphins or porpoises were seen but we were lucky
enough to be privy to fantastic views of a peregrine falcon as well as a series
of gannet dives! Hopefully next time we’ll
be lucky enough to spot that elusive fin….
* A group of eager volunteers took to the rivers on a sunny
day to help the MISE (mammals in a sustainable environment) project to survey for
otters. Paddling bare foot in the water
on a hot summer’s day whilst looking under branches and on boulders for otter
poo – what nicer way to spend a day?
* Thanks to funding from CAE and NRW we were able to put on
a free 2 day plant ID course for
volunteers – which received such terrific feedback we’ll be running it again in
the not too distant future.
* We’ve also run “old faithful” workdays such as Himalayan
balsam bashing, Rhododendron clearance and footpath workdays.
We had a particularly exciting time in October, when we
carried out an Autumn woodland Bioblitz.
A big thanks goes out to all volunteers and experts who helped in the
collection and recording of fungi, plants, mammals, birds, lower plants, bats,
invertebrates, moths….Many interesting specimens were found and the data has
been passed on to Cofnod. Once it has been
collated we’ll be able to let you know how many species were found!
Croeso i’n tudalen blog newydd sbon – dyna ichi gyffrous!
Bydd
digonedd o bethau'n digwydd bob amser yn Eryri i sicrhau digon o destun trafod
inni, o'n diwrnodau gwirfoddoli i hanesion lleol diddorol. Ffordd
ddelfrydol i gychwyn y blog hwn yw adfyfyrio ar y chwe mis diwethaf, pan lansiwyd ein prosiect newydd “Prosiect Ecosystem
Eryri" (mae’r Prosiect Cadwraeth Eryri hynod lwyddiannus bellach wedi
ymddeol!). Yn ystod misoedd diweddar, mae'r Gymdeithas wedi
arloesi â nifer o bethau, diolch i'r prosiect newydd hwn:
* Roedd ein harolwg cyntaf o
famaliaid y môr mewn partneriaeth â Sea Watch yn ddigwyddiad poblogaidd iawn, a
hoffem ailadrodd hwn yn y dyfodol. Yn anffodus, ni welwyd dolffiniaid na llamhidyddion, ond roeddem yn ddigon
ffodus i fwynhau golygfeydd bendigedig o hebog tramor yn ogystal â chyfres o
blymiadau gan fulfrain gwynion. Gobeithio y byddwn yn ddigon ffodus i weld yr asgell wibiog honno y tro
nesaf....
* Aeth grŵp o wirfoddolwyr brwdfrydig i'r afonydd un diwrnod heulog i helpu
prosiect MISE (mamaliaid mewn amgylchedd cynaliadwy) i wneud arolwg o ddyfrgwn. Padlo’n droednoeth yn y dŵr ar ddiwrnod braf o
haf wrth chwilio am faw dyfrgwn dan y canghennau a’r clogfeini - dyna ffordd
hyfryd o dreulio diwrnod!
* Diolch i gyllid gan CAE ac ANC, roeddem yn gallu cynnig cwrs adnabod
planhigion 2 ddiwrnod am ddim i
wirfoddolwyr – cafwyd adborth mor wych,
byddwn yn ei redeg eto yn y dyfodol agos.
* Rydym hefyd wedi cynnal diwrnodau gwaith sy'n “hen ffefrynnau”, megis
brwydro Ffromlys Chwarennog, clirio Rhododendron a chynnal a chadw llwybrau.
Roedd mis Hydref yn neilltuol o gyffrous inni, pan gynhaliwyd Bioblitz yn y
coetir. Diolch yn fawr iawn i’r holl
wirfoddolwyr ac arbenigwyr a gynorthwyodd â’r gwaith o gasglu a chofnodi
ffyngau, planhigion, mamaliaid, planhigion is, ystlumod, infertebratau,
gwyfynod...Canfuwyd nifer o enghreifftiau diddorol ac anfonwyd y data at
Cofnod. Pan fydd yr holl ddata
wedi’i gasglu ynghyd, byddwn yn gallu rhoi gwybod ichi faint o rywogaethau a
ganfuwyd!
Diolch i bawb ohonoch sydd wedi gwirfoddoli a chynorthwyo i wireddu'r
prosiect hwn. Os nad ydych wedi
gwirfoddoli o’r blaen, beth am gychwyn nawr? Dydy
o fyth yn rhy hwyr!
No comments:
Post a Comment